Neidio i'r cynnwys

Llanbabo

Oddi ar Wicipedia
Llanbabo
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3503°N 4.4428°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH375865 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, yw Llanbabo[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, 4 milltir i'r de o Fae Cemaes ar ymyl Cors y Bol ger Llyn Alaw. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu'n gryf fod Sefnyn, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g, yn frodor o blwyf Llanbabo.

Eglwys Pabo Sant

[golygu | golygu cod]

Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Pabo (5g). Eglwys un siambr ydyw, a godwyd yn y 12g yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd ond a newidiwyd yn sylweddol yn y 19g. Ynddi ceir maen cerfiedig ac arni delwedd bas-relief o'r sant, oedd yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn gwisgo coron ac yn dwyn teyrnwialen. Mae'r maen yn dyddio o ddiwedd y 14g. Tybir i gerflun arall ar yr ynys, yn Eglwys Sant Iestyn, yn Llaniestyn, gael ei gerfio gan yr un crefftwr.

Hefyd o ddiddordeb arbennig yw'r tri phen cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gosod yn y bwa uwchben porth yr eglwys; tybir eu bod yn cynrychioli'r Drindod (ceir pennau cyffelyb ym Mhriordy Penmon ac yn eglwys Llan-faes).

Mae muriau'r llan o gwmpas yr eglwys ar ffurf crwn, arwydd o hynafrwydd y safle.

Hynafiaethau eraill

[golygu | golygu cod]

Filltir i'r de o'r pentref ceir maen hir ac yn agos i hwnnw mae safle Bedd Branwen ar lan Afon Alaw.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Gweler t. 76 am luniau o bennau'r bwa, a t. 216 a lun o'r maen cerfiedig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy