Gwyddbwyll
![]() | |
Enghraifft o: | gêm bwrdd, math o chwaraeon, gêm dau berson, chwaraeon ar sail gêm, difyrwaith ![]() |
---|---|
Math | sequential game, chwaraeon y meddwl, chwaraeon unigolyn ![]() |
Dyddiad cynharaf | 1470s ![]() |
Gwlad | Ymerodraeth y Gupta ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 7 g ![]() |
Genre | mind game, abstract strategy game ![]() |
![]() |

Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau golau a thywyll yw gwyddbwyll (hefyd tsiès ar lafar, a sies mewn hen destunau[1]). Nod Gwyddbwyll yw gosod Brenin y gwrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) yn y symudiad nesaf. Mae'n gêm resymegol a thactegol ddwfn iawn, cymaint felly fel bod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu Tsieina hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop. Roedd "Gwyddbwyll Gwenddoleu" yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[2]
Gêm fwrdd debyg o ran defnydd o lain siec ond llawer symlach ac haws ei chwarae yw draffts.


Strwythur
[golygu | golygu cod]Mae'r darnau'n cael eu gosod ar y bwrdd fel yn y llun, gyda'r Frenhines ar ei lliw ei hun – hynny yw Brenhines du ar sgwâr tywyll, Brenhines gwyn ar sgwâr golau. Gwyn sy'n symud gyntaf, ac mae'r chwaraewyr yn symud am yn ail tan fod naill ai Siachmat, neu chwaraewr yn ildio, neu'r ddau yn cytuno i gêm gyfartal, neu'r gêm yn gorffen fel Methmat.
Defnyddir nodiant algebraidd yn y gêm fodern i ddisgrifio a chofnodi gêmau.
Mae pob darn gwyddbwyll yn medru symud mewn ffordd wahanol, ac mae gan bob darn werth arbennig wrth chwarae, gan ddechrau gyda'r gwerinwr lleiaf pwerus. Mae darnau pob chwaraewr fel a ganlyn:
- 1 Teyrn (neu Brenin) (T) (Amhrisiadwy, ond tua 4 pwynt wrth chwarae);
- 1 Brenhines (B) (9 pwynt);
- 2 Castell (C) (5 pwynt);
- 2 Esgob (E) (3+ pwynt);
- 2 Marchog (M) (3 phwynt);
- 8 Gwerinwr (1 pwynt).
Wedi dysgu sut i symud y darnau mae chwaraewyr gwyddbwyll yn mynd ati astudio:
Mae gwyddbwyll yng Nghymru yn cael ei reoli gan Undeb Gwyddbwyll Cymru sy'n aelod o FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd.
Gwyddbwyll Geltaidd
[golygu | golygu cod]
Defnyddid y gair "Gwyddbwyll" (Gwezboell yn y Llydaweg, Fidchell yn y Wyddeleg) yn y Gymraeg cyn i'r gêm bresennol ddod i Gymru (yn y Mabinogi er enghraifft). Cyfeirio at gêm arall â tharddiad Celtaidd iddi yr oeddid yn y llawysgrifau, gêm tebycach i dawlbwrdd, a drafodir isod. Heddiw ceir gemau a elwir "gwyddbwyll Geltaidd" sy'n seiliedig ar yr ychydig wybodaeth sydd wedi goroesi ynglŷn â'r gêm Fidchell o Iwerddon a'r gêm tawlbwrdd o Gymru. Mae'r rheolau yn hanu o gemau Tafl y Germaniaid. Yn wahanol i'r wyddbwyll fodern gonfensiynol, mae gwyddbwyll Geltaidd yn gwrthwynebu dau lu anghyfartal a chanddynt ddau amcan gwahanol. Mae'r brenin yn cael ei warchae yn ei gastell canolog, wedi ei amddiffyn gan wyth tywysog. Gyda chymorth y tywysogion mae'n ceisio dianc y gelynion trwy gyrraedd un o'r bedair cornel. Mae yna 16 o elynion, mewn pedwar grŵp o bedwar. Maen nhw'n ceisio dal y brenin trwy ei flocio a rhwystro ei symudiadau.
Yr Oesoedd Canol
[golygu | golygu cod]Disgwylid i bob gŵr bonheddig gwerth ei halen geisio meistroli'r "bedair camp ar hugain", a rhestrir gwyddbwyll fel y gyntaf o'r campau hynny. Fe’i crybwyllir hefyd yn y chwedlau cynharach, sef Breuddwyd Macsen, Breuddwyd Rhonabwy a Pheredur, ac mewn barddoniaeth.[3] Mae'r cofnod cyntaf o'r gair yn y Gymraeg mewn cerdd fawl i Guhelyn Fardd (fl. tua 1100–1130).[4]
Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y gêm rydym heddiw'n ei galw'n wyddbwyll yn ei chlytiau, ond yn megis dechrau, wedi'i chyflwyno i Loegr gan y Normaniaid. Ymledodd yn eitha cyflym i bob rhan o gymdeithas erbyn diwedd yr Oesoedd Canol.[5] Rhys Goch Eryri (c. 1365–1440) a gyflwynodd y gair "sïes" yn un o'i gerddi.[6] Yn y rhestr campau crybwyllir y ddau – sïes a gwyddbwyll, sy'n ategu'r farn eu bod yn ddwy gêm wahanol. Mae Lewys Glyn Cothi a Ieuan ap Rhydderch ill dau'n cyfeirio at "at sïes" a bathiad gan Hywel Swrdwal yw "siec mad" sy’n fenthyciad o’r Saesneg check mate.[7]
Disgrifiad o Dawlbwrdd
[golygu | golygu cod]- Prif: Tawlbwrdd
Roedd y tawlbwrdd yn un o'r anrhegion a roddai'r brenin i'w uchelwyr: ei ynadon llys a'i feirdd.[8] Mae Guto’r Glyn yn crybwyll y gêm (ond nid gwyddbwyll), a chanodd yn ei foliant i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin:
Gwreiddiol | Ystyr |
---|---|
|
|
Cofnododd Robert ap Ifan yn 1587 ddisgrifiad (a llun) o'r gêm, gan ddweud ei fod yn cael ei chwarae ar fwrdd 11×11 gyda 12 darn ar ochr y brenin a 24 ar ochr y gwrthwynebydd. Dyma'r hyn a sgwennodd:[10]
Dylid chwarae'r gêm gyda'r brenin yn y canol a deuddeg o ddynion o'i gwmpas, gyda dau-ddeg-pedwar o ddynion yn ceisio ei ddal. Gosodir y rhai hyn fel a ganlyn: chwech yng ngahanol pob ochr o'r bwrdd yn y chwe man canolig. Mae'r ddau berson yn symud y darnau. Os oes darn yn dod rhwng dau o ddarnau'r gwrthwynebwr yna mae'n marw, a theflir y darn allan o'r gêm. Ond os yw'r brenin ei hun yn dod rhwng dau o ddarnau ei wrthwynebydd, yna os dywedwch "Cym bwyll, gwylia dy frenin!" cyn iddo symud i'r rhan honno (hy rhwng dau ddarn) ac os na all symud, yna mae'n cael ei ddal. Os yw eich gwrthwynebwr yn dweud "Fi yw dy was!" ac yn rhoi un o'i ddarnau rhwng dau o'ch darnau chi, yna ddaw dim drwg o hynny. Ac os yw'r brenin yn medru cyrraedd y linell..., mae'n ennill y gêm.
Gwyddbwyll mewn Diwylliant Cymraeg Cyfoes
[golygu | golygu cod]Ceir cyfeiriad i'r gêm gwyddbwyll fel cyffelybiaeth yn y gân rap, Gwyddbwyll gan Y Tystion:[11] oddi ar eu CD "Rhaid i rhybweth Ddigwydd" o 1997. Cafwyd hefyd fersiwn o'r gân rhwng y grŵp a'r cerddor enwog gyda'r Velvet Underground, John Cale yn y flwyddyn 2000.[12]
Galla' i ddim diodde'r twyll
jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll[13]
Gwyddbwyll drwy ohebu
[golygu | golygu cod]Math o gêm wyddbwyll lle nad yw'r chwaraewyr yn wynebu ei gilydd dros fwrdd yw gwyddbwyll drwy ohebu, neu wyddbwyll drwy'r post.
Mae'r ffordd y mae symudiadau'n cael eu trosglwyddo wedi newid wrth i gyfathrebu wella. Ar y dechrau, defnyddid negeswyr. Wedyn, gyda dyfodiad stampiau post, dechreuwyd defnyddio llythyrau neu gardiau post. Byddai'r telegraff a´r ffôn yn dod â chyflymder, ond am fwy o gost. Yna tro'r ffacs a'r e-bost oedd hi.
Mesurir amser adlewyrchiad pob symudiad mewn dyddiau a gall gêm bara wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.
Pencampwriaethau Gwyddbwyll drwy Ohebu'r Byd
[golygu | golygu cod]Gwyddbwyll drwy Ohebu olympiad
[golygu | golygu cod]Olympiad Gwyddbwyll drwy Ohebu Merched
[golygu | golygu cod]# | Blynyddoedd | Medal aur | Medal arian | Medal efydd | |
---|---|---|---|---|---|
I | 1974 - 1979 | ![]() |
![]() |
![]() |
[67] |
II | 1980 - 1986 | ![]() |
![]() |
![]() |
[68] |
III | 1986 - 1992 | ![]() |
![]() |
![]() |
[69] |
IV | 1992 - 1997 | ![]() |
![]() |
![]() |
[70] |
V | 1997 - 2003 | ![]() |
![]() |
![]() |
[71] |
VI | 2003 - 2006 | ![]() |
![]() |
![]() |
[72] |
VII | 2007 - 2009 | ![]() |
![]() |
![]() |
[73] |
VIII | 2008 - 2010 | ![]() |
![]() |
![]() |
[74] |
IX | 2011 - 2014 | ![]() |
![]() |
![]() |
[75] |
X | 2015 - 2017 | ![]() |
![]() |
![]() |
[76] |
Sefydliad cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Mae'r arfer o wyddbwyll drwy ohebu yng Nghymru yn dyddio'n ôl i ganol y 19eg ganrif. [77] Mae'r Welsh Correspondence Chess Federation (WCCF) yn gyfrifol am drefnu gwyddbwyll drwy ohebu yng Nghymru. [78] Sefydlwyd yr endid ar Awst 18, 2012 [79] ac mae'n gysylltiedig â'r International Correspondence Chess Federation (ICCF). [80] Crewyd y WCCF ar ôl ailstrwythuro'r Welsh Correspondence Chess Association wreiddiol (1954-2012).
Pencampwriaethau
[golygu | golygu cod]WCCA (1954-2012)
- 1966: M.Jones
- 1967: M.Jones & R.Miles
- 1968: M.Jones
- 1969: F.Waite
- 1970: F.Cunnane
- 1971: T.Jones
- 1972: F.Cunnane
- 1973: J.Lang
- 1974: F.Cunnane
- 1975: D.Vaughan
- 1976: T.Jones
- 1977: D.Vaughan
- 1978: C.Wills
- 1979: D.Vaughan
- 1980: D.Vaugham
- 1981: D.Vaughan
- 1982: C.Morris
- 1983: D.Vaughan
- 1984: D.Jones
- 1985: D.Jones
- 1986: S.Hutchings
- 1987: D.Vaughan
- 1988: R.Davies
- 1989: J.Coleby
- 1990: J.Coleby
- 1992: J.Garcia
- 1993: A.Baker
- 1994: G.Sinnett
- 1995: A.Baker
- 1996: D.James
- 1997: D.Phillips
- 1998: D.Phillips
- 1999: N.Evans
WCCF (2012-...)
- 2019-2020: Russell Sherwood [81]
- 2021-2022: Jonathan Blackburn[82]
- 2023-2024: William Bishop[83]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Byrddau gwyddbwyll ar Yr Aes, Caerdydd.
-
Rhai o'r gwerin gwyddbwyll
-
Y bwrdd wedi'i osod ar ddechrau'r gêm
-
Yr uwchfeistr Gary Kasparov
-
Pencampwriaeth pobl ifanc
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ sies. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8fed Mawrth 2025.
- ↑ Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III
- ↑ A chwaryy di wydbwyll?: ystyr ac arwyddocâd y gêm gwyddbwyll mewn Chwedlau Cymraeg Canol; M. Hughes; Llên Cymru, t. 32 (2009), 33-57.
- ↑ [Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950- ), 1754; Hughes, A chwaryy di wydbwyll?.
- ↑ Pleasures and Pastimes in Medieval England gan C. Reeves; (Stroud, 1995), t. 77-9.
- ↑ gutorglyn.net; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Rhagfyr 2015
- ↑ Gwaith Lewys Glyn Cothi gan Dafydd Johnston (gol.) (Caerdydd, 1995), 208.4; R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch gan D.F. Evans (gol.) (Aberystwyth, 2003), 3.110; Gwaith Hywel Swrdwal a'i deulu (Aberystwyth, 2000), 11.49-50.
- ↑ Llyfr Iorwerth gan A.R. Wiliam (gol.); (Caerdydd, 1960), 10.9, t. 13.15.
- ↑ gutorglyn.net; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Rhagfyr 2015
- ↑ Ifan, Robert ap (1587). Y Llyfrgell Genedlaethol, MS 158. Dyfynnwyd yn llyfr Murray, H. J. R. (1951). A History of Board-Games Other than Chess. Gwasg Rhydychen. ISBN 0-19-827401-7. 1951, tud.63.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=ngPQzI5rEqE
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=uBz3kaQ1S0A
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=BWuKdsiP-5Q
- ↑ WCC Championship 1
- ↑ WCC Championship 2
- ↑ WCC Championship 3
- ↑ WCC Championship 4
- ↑ WCC Championship 5
- ↑ WCC Championship 6
- ↑ WCC Championship 7
- ↑ WCC Championship 8
- ↑ WCC Championship 9
- ↑ WCC Championship 10
- ↑ WCC Championship 11
- ↑ WCC Championship 12
- ↑ WCC Championship 13
- ↑ WCC Championship 14
- ↑ WCC Championship 15
- ↑ WCC Championship 16
- ↑ WCC Championship 17
- ↑ WCC Championship 18
- ↑ WCC Championship 19
- ↑ [WCC Championship 20
- ↑ WCC Championship 21
- ↑ WCC Championship 22
- ↑ WCC Championship 23
- ↑ WCC Championship 24
- ↑ WCC Championship 25
- ↑ WCC Championship 26
- ↑ WCC Championship 27
- ↑ WCC Championship 28
- ↑ WCC Championship 29
- ↑ WCC Championship 30
- ↑ WCC Championship 31
- ↑ WCC Championship 31
- ↑ 1.CCOlympiad ICCF
- ↑ 2.CCOlympiad ICCF
- ↑ 3.CCOlympiad ICCF
- ↑ 4.CCOlympiad ICCF
- ↑ 5.CCOlympiad ICCF
- ↑ 6.CCOlympiad ICCF
- ↑ 7.CCOlympiad ICCF
- ↑ 8.CCOlympiad ICCF
- ↑ 9.CCOlympiad ICCF
- ↑ 10.CCOlympiad ICCF
- ↑ 11.CCOlympiad ICCF
- ↑ 12.CCOlympiad ICCF
- ↑ 13.CCOlympiad ICCF
- ↑ 14.CCOlympiad ICCF
- ↑ 15.CCOlympiad ICCF
- ↑ 16.CCOlympiad ICCF
- ↑ 17.CCOlympiad ICCF
- ↑ 18.CCOlympiad ICCF
- ↑ 19.CCOlympiad ICCF
- ↑ 20.CCOlympiad ICCF
- ↑ 21.CCOlympiad ICCF
- ↑ 1.Olympiad merched
- ↑ 2.Olympiad merched
- ↑ 3.Olympiad merched
- ↑ 4.Olympiad merched
- ↑ 5.Olympiad merched
- ↑ 6.Olympiad merched
- ↑ 7.Olympiad merched
- ↑ 8.Olympiad merched
- ↑ 9.Olympiad merched
- ↑ 10.Olympiad merched
- ↑ Hanes gwyddbwyll gohebiaeth yng Nghymru
- ↑ Ffederasiwn Gwyddbwyll Gohebiaeth Cymru
- ↑ Sylfaen WCCF
- ↑ Congress 2012 - South Africa - Minutes_Final.pdf. Ymlyniad i'r Ffederasiwn Gwyddbwyll Gohebiaeth Ryngwladol[dolen farw]
- ↑ Pencampwriaeth 2019/20
- ↑ Pencampwriaeth 2021/2
- ↑ Pencampwriaeth 2023/4
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Iolo Jones a T. Llew Jones, A Chwaraei di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980)
- Hooper, David a Whyld, Kenneth. The Oxford Companion to Chess (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1984)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- gwyddbwyll.com Archifwyd 2021-03-04 yn y Peiriant Wayback Gwefan gwyddbwyll Cymraeg â rhyw 100 o chwaraewyr
- www.gemaugwyddbwyll.com Archifwyd 2019-05-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan â miloedd o gêmau Gwyddbwyll gyda nodiant Cymraeg]