Neidio i'r cynnwys

Crys Melyn

Oddi ar Wicipedia
Crys Melyn
Enghraifft o'r canlynolteitl Edit this on Wikidata
Mathgwobr, Q5990143, Gele trui Edit this on Wikidata
Lliw/iaumelyn Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y crys melyn

Y Crys Melyn (Ffrangeg: Maillot Jaune) yw'r crys a wisgir gan arweinydd dosbarthiad cyffredinol sawl ras seiclo, y mwyaf o nôd, a'r cyntaf i'w gyflwyno yw'r Tour de France. Mae'n galluogi i'r reidiwr sy'n arwain ras sawl cymal i allu gael ei adnabod yn hawdd yng nghanol y grŵp.

Sut mae'n cael ennill

[golygu | golygu cod]

Penderfynir enillydd y Tour de France, a rasys seiclo sawl cymal eraill, gan weithio allan cyfanswm yr amser a gymerodd reidiwr i gwblhau pob cymal. Gall amser gael ei ychwanegu neu'i dynnu o'r cyfanswm fel bonws am ennill cymal neu gyrraedd brig mynydd gyntaf, neu fel cosb am dorri'r rheolau. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd pob cymal sy'n derbyn y crys melyn mewn seremoni, ac mae ganddo'r hawl i wisgo'r crys yn y cymal canlynol.[1] Y reidiwr sy'n derbyn y crys melyn ar ôl y cymal olaf, yw enillydd cyffredinol y ras.

Nid yw'r crys yn felyn ar gyfer pob ras, gan y dewisir y lliw gan drefnwyr y ras. Er enghraifft, mae'r Tour of California a'r Vuelta a España yn defnyddio crys lliw aur, mae'r Giro d'Italia yn defnyddio pinc, ac mae'r Tour Down Under yn defnyddio lliw ocr.

Tarddiad

[golygu | golygu cod]

Rhwymyn gwyrdd o amgylch y braich ac nid crys melyn y gwisgodd enillydd y Tour de France cyntaf.[2] Mae amheuaeth ynglŷn â phryd y cyflwynwyd y crys melyn gyntaf. Enillodd y seiclwr Belgaidd Philippe Thys y Tour yn 1913, 1914 a 1920, ac fe adroddodd ei atgofion yng nghylchgrawn Belgaidd Champions et Vedettes pan oedd yn 67, a dywedodd y gwisgodd ef grys melyn yn 1913 pan ofynnodd y trefnydd, Henri Desgrange, iddo wisgo crys lliw. Gwrthododd Thys, gan ddweud y buasai gwneud ei hun yn fwy amlwg yn hybu'r reidwyr eraill i reidio yn ei erbyn.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Regulations of the race. ASO/letour.fr.
  2. 2.0 2.1 Les Woodland (gol.) Yellow Jersey Companion to the Tour de France, Yellow Jersey, y Deyrnas Unedig, 2007
  3. Chany, Pierre (1997) La Fabuleuse Histoire du Tour de France, gol. de la Martinière, France.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy