Neidio i'r cynnwys

Courtney Love

Oddi ar Wicipedia
Courtney Love
FfugenwCourtney Michelle Love, Courtney Love Cobain, Coco Rodriguez, Courtney Michelle Cobain, Love Michelle Harrison, Courtney Michelle Menely Edit this on Wikidata
LlaisCourtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014.ogg, Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014 (with reference to her own Wikipedia).ogg Edit this on Wikidata
GanwydCourtney Michelle Harrison Edit this on Wikidata
9 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioSympathy for the Record Industry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethgitarydd, canwr, actor, cyfansoddwr, actor ffilm, artist recordio, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, roc amgen, grunge, pync-roc, post-grunge Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata
TadHank Harrison Edit this on Wikidata
MamLinda Carroll Edit this on Wikidata
PriodJames Moreland, Kurt Cobain Edit this on Wikidata
PlantFrances Bean Cobain Edit this on Wikidata
PerthnasauPaula Fox, Paul Hervey Fox, Elsie Fox Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.courtneylove.com Edit this on Wikidata
llofnod

Cantores Americanaidd o dras Gymreig a Gwyddelig yw Courtney Love (ganwyd 9 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gitarydd, cyfansoddwr caneuon, actores ac awdur.

Ganed Courtney Michelle Harrison yn San Francisco ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Taleithiol Portland a Choleg y Drindod, Dulyn. Priododd Kurt Cobain ac mae Frances Bean Cobain yn blentyn iddi.[1][2][3][4][5]

Roedd yn ffigwr amlwg yn sîn pync a grunge y 1990au, ac mae ei gyrfa wedi rhychwantu pedwar degawd. Cododd Love i amlygrwydd fel prif leisydd y band roc amgen Hole, a ffurfiodd ym 1989. Tynnodd sylw'r cyhoedd i'w pherfformiadau byw penchwiban, heb ei ffrwyno a'i geiriau llawn gwrthdaro, ynghyd â'i bywyd personol hynod gyhoeddus yn dilyn ei phriodas â Kurt Cobain, blaenwr y band 'Nirvana'.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn 'Ysbyty Coffa Saint Francis' yn San Francisco, California, yn blentyn cyntaf i'r seicotherapydd Linda Carroll (g. Risi) a Hank Harrison, cyhoeddwr a rheolwr ffordd y band Grateful Dead.[6][7][8] Tad bedydd Love yw basydd a sylfaenydd y Grateful Dead, Phil Lesh.[9][10] Datgelwyd yn ddiweddarach bod ei mam, a gafodd ei mabwysiadu adeg ei geni a'i magu gan deulu Eidalaidd-Catholig amlwg yn San Francisco, yn ferch fiolegol y nofelydd Paula Fox.[11][12][13] Roedd hen-nain mamol Love, sef Elsie Fox, yn sgriptiwr-sgrin.[14] Yn ôl Love, cafodd ei henwi ar ôl Courtney Farrell, prif gymeriad y nofel Chocolates for Breakfast gan Pamela Moore. Mae hi o dras Almaeneg, Ciwbaidd, Cymreig, Gwyddelig a Seisnig.[15][16]

Love yn Moscfa, 2011

Treuliodd Love ei phlentyndod yn ardal Haight-Ashbury yn San Francisco tan ysgariad ei rhieni yn 1969, a sbardunwyd gan honiadau ei mam fod ei thad wedi bwydo Courtney gydag LSD pan oedd yn fabi. Er iddo wadu'r honiad, dyfarnwyd mai ei mam yn unig ddylid ei magu.[17][18][19]

A woman posed for a photo staring into the camera
Ffoto ar gyfer marchnata Straight to Hell, 1986

Cafodd Love blentyndod teithiol iawn, oherwydd swydd ei thad, ond fe’i magwyd yn bennaf yn Portland, Oregon, ac yn ei harddegau bu’n chwarae mewn cyfres o fandiau byrhoedlog. Treuliodd flwyddyn yn byw yn Nulyn a Lerpwl cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau lle cafodd ei chastio yn rhai o ffilmiau Alex Cox Sid and Nancy (1986) a Straight to Hell (1987).

There were hairy, wangly-ass hippies running around [our house] naked [doing] Gestalt therapy. My mom was also adamant about a gender-free household: no dresses, no patent leather shoes, no canopy beds, nothing. (Dyfyniad gan Love am ei harddegau)

Yn bedair ar ddeg oed, fe’i harestiwyd am ddwyn siop crys-T o Woolworths, [30] ac fe’i hanfonwyd i Hillcrest Correctional Facility, yn Salem, Oregon.[20]

Mynychodd Love ysgol Montessori yn Eugene, lle cafodd drafferthion yn academaidd a chael trafferth gwneud ffrindiau. Cwblhaodd ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Oregon.[21][22] Yn 1983, cymerodd swyddi byrhoedlog yn gweithio fel dawnsiwr erotig yn Japan ac yn ddiweddarach yn Taiwan, ond cafodd ei alltudio ar ôl i'r llywodraeth gau'r clwb.

Disgyddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Levy, Stu; Love, Courtney (2004). Princess Ai: Destitution. 1. Tokyopop [Japan: Shinshokan]. ISBN 978-1-59182-669-9.
  • Levy, Stu; Love, Courtney (2005). Princess Ai: Lumination. 2. Tokyopop [Japan: Shinshokan]. ISBN 978-1-59182-670-5.
  • Levy, Stu; Love, Courtney (2006). Princess Ai: Evolution. 3. Tokyopop [Japan: Shinshokan]. ISBN 978-1-59182-671-2.
  • Love, Courtney (2006). Dirty Blonde: The Diaries of Courtney Love. Faber & Faber. ISBN 978-0-86547-959-3.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: "Courtney Love". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Courtney Love". "Courtney Love". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  5. Tad: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
  6. Carroll 2005, t. 144.
  7. Behind the Music 2010, event occurs at 4:30.
  8. Hunter & Segalstad 2009, t. 197.
  9. Buckley & Edroso 2003, t. 499.
  10. Rocco & Rocco 1999, t. 224.
  11. Carroll 2005, tt. 19–21.
  12. Freeman, Nate (16 Ebrill 2013). "Courtney Loveless: Family Tree Remains Mystery as Feud with Grandma Sizzles". The New York Observer. New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 16, 2015.
  13. Garratt, Sheryl (1 Ebrill 2010). "Courtney Love: damage limitation". The Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2015.
  14. Entertainment Weekly Staff (22 Mawrth 2002). "Love is a Battlefield". Entertainment Weekly. New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2015.
  15. Matheson, Whitney (26 Mehefin 2013). "I love this book: 'Chocolates for Breakfast'". USA Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Rhagfyr 2013.
  16. "Interview with Courtney Love". Conversations from the Edge with Carrie Fisher. 3 MAwrth 2002. Oxygen.
  17. Jung 2010, tt. 188–189.
  18. Ladd-Taylor & Umanski 1998, t. 327.
  19. Selvin, Joel (11 Mai 1995). "Courtney and Dad – No Love Lost / He downplays estrangement, she won't see him". San Francisco Chronicle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2015.
  20. Iley, Chrissy (22 Hydref 2006). "Courting disaster". The Times. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  21. "Courtney Love". E! True Hollywood Story. Season 8. Episode 2. 5 Hydref 2003. E!.
  22. Love 2006, tt. 29–31.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy