Neidio i'r cynnwys

Balcanau

Oddi ar Wicipedia
Gorynys y Balcanau

Rhanbarth yn ne-ddwyrain Ewrop sy'n cynnwys tiriogaeth gwledydd presennol Gwlad Groeg, Albania, Gogledd Macedonia, Serbia, Montenegro, Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Bwlgaria, Rwmania a rhan Ewropeiadd Twrci yw'r Balcanau. Mae ganddo arwynebedd tir o 550,000 km² ac mae tua 55 miliwn o bobl yn byw yno. Yr enw am orynys y Balcanau yn Hen Roeg oedd Gorynys Haemus (Χερσόνησος του Αίμου). Enwir y rhanbarth ar ôl Mynyddoedd y Balcanau, sy'n rhedeg trwy ganol Bwlgaria i mewn i ddwyrain Serbia.

Cefndir hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Daeth y rhan fwyaf o'r Balcanau yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac yna'n rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd o'r 5g ymlaen. Daeth y Balcanau dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid o'r 15g hyd y 19g a dechrau'r 20g. Enillodd Gwlad Groeg ei hannibyniaeth yn 1829 ac fe'i dilynwyd gan Serbia (1878), Rwmania (1878), Bwlgaria (1908) ac Albania (1912). Roedd y cystadlu rhwng y pwerau mawr Ewropeaidd am reolaeth ar yr ardal yn un o'r ffactorau pennaf a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918). Daeth Iwgoslafia'n wlad ffederal sosialaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac roedd gweddill y gwledydd Balcanaidd (ac eithrio Gwlad Groeg a Thwrci) yn wladwriaethau comiwnyddol hyd cwymp y Llen Haearn a Rhyfeloedd y Balcanau.

Cefndir diwylliannol

[golygu | golygu cod]

Mae hunaniaeth y Balcanau yn cael ei ffurfio gan ei lleoliad daearyddol; saif ar groesffordd hanesyddol sydd wedi bod yn dyst i sawl pobl a diwylliannau. Mae wedi bod yn fan cyfarfod i rhannau Lladin a Groeg yr Ymerodraeth Rufeinig ac yn ffin rhyngddynt, yn gyrchfan i fewnlifiad anferth o bobloedd Slaf paganaidd, yn fan cyfarfod Cristnogaeth Orllewinol ac Uniongred, yn ogystal â bod yn fan cyfarfod i Islam a Christnogaeth. Gwelai yn ogystal nifer fawr o ffoaduriaid Iddewig yn ffoi'r Chwil-lys. Mae nifer uchel o Romani yn byw yno hefyd.

Cefndir ieithyddol

[golygu | golygu cod]

Mewn canlyniad i hyn oll mae'r Balcanau heddiw yn rhanbarth o amrywiaeth ethno-ieithyddol sylweddol, ac yn gartref i sawl iaith Slafig, Romáwns, a Twrcaidd, yn ogystal â'r iaith Roeg, Albaneg, ac ieithoedd eraill. Yn y cyfnodau cynhanesyddol ac egin-hanesyddol mae nifer o grwpiau ethnig eraill â'i hieithoedd unigryw eu hunain, wedi byw yn y rhanbarth yn ogystal, yn cynnwys y Celtiaid (e.e. y Galatiaid), yr Ilyriaid, yr Avariaid, y Vlachiaid, y Germaniaid a sawl llwyth Germanaidd arall.

Poblogaeth yn ôl cenedligrwydd a chrefydd

[golygu | golygu cod]
Balcanau, 2011

Cenedligrwydd a thras

[golygu | golygu cod]

Ceir pobl o genedligrwydd amrywiol yn y Balcanu, yn cynnwys (m = miliwn):

Crefydd

[golygu | golygu cod]

Prif grefyddau'r rhanbarth yw Cristnogaeth (Uniongred Dwyreiniol a Chatholig) ac Islam. Ymarferir sawl traddodiad o'r ddwy ffydd, ac mae gan pob un o'r gwledydd Uniongred ei heglwys genedlaethol eu hunain.

Cristnogaeth Uniongred Ddwyreiniol yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:

Catholigiaeth Rufeinig yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:

Islam yw prif grefydd y gwledydd canlynol:

Yn y gwledydd canlynol ceir nifer sylweddol o bobl (dros 10% o'r boblogaeth) sy'n perthyn i grefyddau lleiafrifol:

  • Albania: Uniongred Ddwyreiniol, Catholigiaeth.
  • Bosnia a Hertsegofina: Mae'r rhan fwyaf o'r Bosniacs yn Fwslimiaid, mae'r Serbiaid yn perthyn i Eglwys Uniongred Serbia a'r Croatiaid yn Gatholigion.
  • Bwlgaria: Islam.
  • Croatia: Serbiaid Uniongred.
  • Gogledd Macedonia: Albaniaid Mwslimaidd.
  • Montenegro: Albaniaid a Bosniacs Mwslimaidd.
  • Serbia: Albaniaid a Bosniacs Mwslimaidd; Hwngariaid, Slofaciaid a Croatiaid Catholig.

Cyfeiriadau a darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Banac, Ivo. 'Historiography of the Countries of Eastern Europe: Yugoslavia', American Historical Review, v 97 #4 (Hydref 1992), 1084-1104.
  • Banac, Ivo. The National Question in Yugoslavia: Origins, History, Politics. Cornell University Press, 1984.
  • Carter, Francis W., gol. An Historical Geography of the Balkans. Academic Press, 1977.
  • Dvornik, Francis. The Slavs in European History and Civilization. Rutgers University Press, 1962.
  • Fine, John V. A., Jr. The Early Medieval Balkans: A Critical Survey from the Sixth to the Late Twelfth Century [1983]; The Late Medieval Balkans: A Critical Survey from the Late Twelfth Century to the Ottoman Conquest. Ann Arbor: University of Michigan Press, [1987].
  • Jelavich, Barbara. History of the Balkans, 2 gyf. Cambridge University Press, [1983].
  • Jelavich, Charles, a Jelavich, Barbara, gol. The Balkans in Transition: Essays on the Development of Balkan Life and Politics since the Eighteenth Century. University of California Press, 1963.
  • Király, Béla K., gol. East Central European Society in the Era of Revolutions, 1775-1856. 1984
  • Mazower, Mark, The Balkans: A Short History, 2000
  • Traian Stoianovich, Balkan Worlds: The First and Last Europe 1994.
Chwiliwch am Balcanau
yn Wiciadur.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy