Neidio i'r cynnwys

Alban Elfed

Oddi ar Wicipedia
Dyddiad ac amser
pob cyhydnos a heuldro'r Ddaear [1][2]
digwyddiad Cyhydnos Heuldro Cyhydnos Heuldro
mis Mawrth[3] Mehefin[4] Medi[5] Rhagfyr[6]
blwyddyn dydd amser dydd amser dydd amser dydd amser
2019 20 21:58 21 15:54 23 07:50 22 04:19
2020 20 03:50 20 21:43 22 13:31 21 10:03
2021 20 09:37 21 03:32 22 19:21 21 15:59
2022 20 15:33 21 09:14 23 01:04 21 21:48
2023 20 21:25 21 14:58 23 06:50 22 03:28
2024 20 03:07 20 20:51 22 12:44 21 09:20
2025 20 09:02 21 02:42 22 18:20 21 15:03
2026 20 14:46 21 08:25 23 00:06 21 20:50
2027 20 20:25 21 14:11 23 06:02 22 02:43
2028 20 02:17 20 20:02 22 11:45 21 08:20
2029 20 08:01 21 01:48 22 17:37 21 14:14

Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed yw'r diwrnod pan fo dydd a nos yr un hyd. Oherwydd gwahaniaethau rhwng y flwyddyn galendr a'r flwyddyn drofannol, gall cyhydnos Medi ddigwydd rhwng Medi 21 a 24. Dyma un o wyliau pwysicaf calendr y Celtiaid a sawl diwylliant arall o gwmpas y byd.

Iolo Morganwg a fathodd y gair 'alban' (a'r term 'Alban Elfed') ar ddiwedd y 18g i ddynodi un o'r pedwar chwarter mewn blwyddyn. Yr ŵyl draddodiadol Gymreig agosaf iddi oedd Calan Hydref, a ddathlid ar y 1af o Hydref.

Diagram yn dangos golau'r Haul ar wyneb y Ddaear yn ystod un o'r ddwy cyhydnos.

Arferid galw'r lleuad lawn gynta ar ôl cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) yn lleuad fedi (neu leuad gynhaeaf), pryd y ceid y naw nos olau. Byddai'r naw nos olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar - bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad lawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h.y. cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. United States Naval Observatory (4 Ionawr 2018). "Earth's Seasons and Apsides: Equinoxes, Solstices, Perihelion, and Aphelion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 18 Medi 2018.
  2. "Cyhydnosau a Heuldroau: 2001 i 2100". AstroPixels.com. 20 Chwefror 2018. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2018.
  3. Équinoxe de printemps entre 1583 et 2999
  4. Solstice d’été de 1583 à 2999
  5. Équinoxe d’automne de 1583 à 2999
  6. Solstice d’hiver
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy