Afon Medjerda
Afon Medjerda ger Testour | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Algeria Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 36.22286°N 7.60322°E, 37.1117°N 10.2142°E |
Tarddiad | Mynyddoedd yr Atlas |
Aber | Gwlff Tiwnis |
Llednentydd | Oued Mellègue, Oued Siliana |
Dalgylch | 22,500 cilometr sgwâr |
Hyd | 460 cilometr |
Arllwysiad | 29 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Mae Afon Medjerda (Arabeg: مجردة Oued Medjerda) yn afon sy'n llifo yn bennaf yn Nhiwnisia, gogledd Affrica. Ei hyd yw 416 km (350 km yn Nhiwnisia).
Mae Afon Medjerda yn tarddu ger Souk-Ahras (dros y ffin yn Algeria) ac yna mae'n llifo i gyfeiriad y dwyrain i aberu yn y Môr Canoldir (ger Gwlff Tiwnis). I'r gogledd mae mynyddoedd y Kroumirie. Dyma'e afon barhaol fwyaf yn Nhiwnisia, er ei bod yn dioddef gwahaniaethau mawr yn ei maint yn ôl y tymor.
Oherwydd ei thir alwfial, dyffryn Medjerda yw un o'r ardaloedd mwyaf ffrwythlon yn y wlad. Mae dŵr yr afon - sy'n adnodd prin yn y wlad - yn cael ei defnyddio i'r eithaf trwy gyfres o gynlluniau trydan dŵr ac argaeau.
Am ei bod yn afon strategol bywsig mae hi wedi gweld ei rhan o hanes. Ceir dinas Rufeinig Bulla Regia yn y gogledd a dinasoedd Uttica, Carthago a Nhiwnis (Bagradas y Rhufeiniaid) ger eu haber.