A. E. Housman
A. E. Housman | |
---|---|
Ffugenw | A. E. Housman |
Ganwyd | 26 Mawrth 1859 Swydd Gaerwrangon, Ardal Bromsgrove |
Bu farw | 30 Ebrill 1936 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, ieithegydd clasurol, llenor, academydd, ysgolhaig clasurol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Y Llanc o Sir Amwythig |
Arddull | telyneg |
llofnod | |
Bardd ac ysgolhaig y clasuron o Loegr oedd Alfred Edward Housman (26 Mawrth 1859 – 30 Ebrill 1936). Ei gerddi enwocaf yw'r cylch A Shropshire Lad. Pesimistiaeth Ramantaidd a fynegir gan ei farddoniaeth, mewn arddull syml a chynnil.[1]
Ganwyd Housman yn Fockbury ger Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon. Bu farw ei fam ar ei benblwydd yn 12 oed, sy'n debyg yn un o wreiddiau'r besimistiaeth yn ei farddoniaeth. Astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Sylweddolodd ei fod yn gyfunrywiol a bu'n cwympo mewn cariad ag un o'i gyfeillion. Er yr oedd yn ysgolhaig medrus, methodd ei arholiadau a ni enillodd ei radd.
O 1882 hyd 1892 gweithiodd fel clerc yn y Swyddfa Batent yn Llundain. Yn y nos bu'n astudio testunau Lladin yn narllenfa'r Llyfrgell Brydeinig. Ysgrifennodd erthyglau a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion, ac chafodd ei benodi'n athro Lladin yng Ngholeg Prifysgol, Llundain, ym 1892.
Enciliodd Housman yn emosiynol wrth iddo deimlo bu'n rhaid iddo fyw heb gariad. Dechreuodd ysgrifennu cerddi gydag ysbrydoliaeth gan Heinrich Heine, Shakespeare a baledi gororau'r Alban. Cafodd y cerddi hyn eu cyhoeddi fel A Shropshire Lad ym 1896.
Cafodd ei benodi'n athro Lladin ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1911. Ei gampwaith fel Lladinwr oedd argraffiad anodiadol o farddoniaeth Manilius (1903–30).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) A.E. Housman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.
- Genedigaethau 1859
- Marwolaethau 1936
- Academyddion y 19eg ganrif o Loegr
- Academyddion yr 20fed ganrif o Loegr
- Academyddion Prifysgol Caergrawnt
- Beirdd y 19eg ganrif o Loegr
- Beirdd yr 20fed ganrif o Loegr
- Beirdd Saesneg o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Sant Ioan, Rhydychen
- Llenorion LHDT
- Pobl o Swydd Gaerwrangon
- Pobl fu farw yng Nghaergrawnt
- Ysgolheigion y clasuron o Loegr
- Ysgolheigion Lladin o Loegr
- Ysgolheigion Saesneg o Loegr