Elfen gemegol yn y tabl cyfnodol yw germaniwm gyda'r symbol Ge a'r rhif atomig 32. Mae'n lled-fetel sgleiniog, caled ac arianaidd sy'n debyg yn gemegol i dun. Mae germaniwm yn ffurfio nifer sylweddol o gyfansoddion organometalig ac yn ddeunydd pwysig yn y diwidiant electroneg. Mae'n perthyn i'r grŵp a elwir yn fetaloidau.
Yn 1871 darganfuwyd germaniwm (LladinGermania ar gyfer Yr Almaen) gan Clemens Winkler. Un o'r elfennau a ragwelodd Dmitri Mendeleev oedd germaniwm i lenwi bylchau yn ei dabl cyfnodol. Gan ei fod o dan silicon yn y tabl, fe enwodd yr elfen yn eka-silicon ac roedd canlyniadau'r astudiaethau o'r elfen newydd yn un o'r camau pwysicaf i brofi pwysigrwydd y tabl cyfnodol a chyfnodedd.