Rosa Parks
Rosa Parks | |
---|---|
Ganwyd | 4 Chwefror 1913 Tuskegee |
Bu farw | 24 Hydref 2005 Detroit |
Man preswyl | Detroit |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | person cyhoeddus, gweithredydd gwleidyddol |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Oriel yr Anfarwolion Alabama, Medal Spingarn, Ellis Island Medal of Honor |
llofnod | |
Ymgyrchydd hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau oedd Rosa Parks (4 Chwefror 1913 – 24 Hydref 2005).
Ganed Rosa Parks fel Rosa Louise McCauley yn Tuskegee, Alabama. Yn ddiweddarach symudodd i Pine Level, gerllaw Montgomery, Alabama. Yn 1932, priododd Rosa Raymond Parks, barbwr o Montgomery. Dechreuodd weithio gyda'r ymgyrch hawliau sifil yn y 1940au.
Yn y cyfnod yma, disgwylid i bobl dduon ar fysiau Montgomery ildio eu seddau os oedd person gwyn angen sedd. Ar 1 Rhagfyr 1955, roedd Parks yn teithio ar fws pan ddywedodd y gyrrwr wrthi am ildio ei sedd i wneud lle i deithiwr gwyn. Gwrthododd, a galwyd yr heddlu, a'i cymerodd i'r ddalfa. O'r digwyddiad yma y deilliodd Boicot Bysiau Montgomery, oedd yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes y Mudiad Hawliau Sifil. Cynorthwyodd Martin Luther King gyda'r ymgyrch, a hyn ddaeth ag ef i amlygrwydd gyntaf. Yn y diwedd rhoddwyd diwedd ar wahaniaethu ar sail lliw ar y bysiau.
"Mae pobl o hyd yn dweud na fu i mi roi fy sedd i fyny oherwydd fy mod yn flinedig, ond nid yw hynny'n wir. Doeddwn i ddim yn gorfforol flinedig. Na, yr unig flinder oedd gennyf oedd y blinder o roi 'fewn."
Rosa Parks.
"Hoffwn gael fy nghofio fel person a oedd eisiau bod yn rhydd...fel y gall pobl eraill hefyd fod yn rhydd."
Rosa Parks.