Cestoda
Cestoda Amrediad amseryddol: 270–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Platyhelminthes |
Dosbarth: |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | dosbarth |
Rhiant dacson | Llyngyren ledog |
Dechreuwyd | Mileniwm 271. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cestodau (neu lyngyr ar lafar gwlad) yn barasit di-asgwrn-cefn sy'n byw yn y coluddyn ac felly'n endobarasitiaid. Mae ganddynt gorff hirfain, meddal. Does ganddynt ddim coesau na llygaid fel rheol. Mae'r enw yn cyfeirio yn arbennig at rywogaethau sy'n byw ym mherfedd anifeiliaid a phobl, ond mae nifer o grwpiau eraill a elwir hefyd yn lyngyr.
Gall y llyngyren drosglwyddo i fodau dynol oddi wrth anifeiliaid a gelwir afiechyd neu gyflwr y gellir ei drosglwyddo i fodau dynol gan anifeiliaid yn swnosis; caiff ei drosglwyddo drwy fwyd neu ddŵr heintiedig neu drwy gysylltiad ag ymgarthion dynol neu anifeiliaid. Os bydd coluddion person yn cael ei heintio gan lyngyren yn ei llawn dwf, bydd angen triniaeth ar yr unigolyn.[1]
Symptomau
[golygu | golygu cod]Yn aml gall pobl fod yn anymwybodol eu bod wedi'u heintio â llyngyr yn eu llawn dwf, gan nad oes ganddynt unrhyw symptomau, neu camddehonglir rhai symptomau cyffredinol y gellid eu hachosi gan rywbeth arall, fel poen yn y stumog.
Weithiau, gellir gweld wyau, larfâu, (wyau newydd ddeor) neu segmentau o'r llyngyren yn yr ymgarthion. Mae'r segmentau'n cynnwys wyau llyngyr.
Yn dibynnu ar y math o lyngyren, gallai’r symptomau eraill gynnwys:
- poen yn yr abdomen
- poen yn y rhan o'r abdomen yn syth uwchben y stumog (poen epigastrig)
- cyfog neu chwydu
- enteritis (llid y coluddyn, fel rheol ar y cyd â dolur rhydd)
- dolur rhydd
- colli pwysau
- colli chwant bwyd
- pendro
- anhunedd
- ffitiau (confylsiynau)
- diffyg maeth (cyflwr a achosir trwy fethu ag amsugno bwyd yn iawn).
Diagnosis
[golygu | golygu cod]Gellir diagnosio heintio gan lyngyren yn ei llawn dwf trwy gasglu wyau, larfâu neu segmentau o'r llyngyren yn yr ymgarthion. Bydd sampl o ymgarthion a gyflwynir mewn cynhwysydd di-haint a ddarperir gan y feddygfa yn caniatáu i'r meddyg nodi'r math o haint, ac felly y driniaeth orau.
Gellir diagnosio heintio gan larfâu llyngyr drwy ddefnyddio technegau delweddu, fel pelydr X ar y frest, sgan uwchsain, sgan CT (tomograffi cyfrifiadurol) neu sgan MRI (delweddu cyseiniant magnetig), neu profion gwaed i chwilio am wrthgyrff i'r haint.
Rheolaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan lyngyr gylchred bywyd sy'n cynnwys cyfnodau larfal yn heintio organebau lletyol canolradd, dyna pam y cant eu galw'n ‘llyngyr cig porc’, ‘llyngyr cig eidion’ ac ati ar ôl yr organeb letyol ganolradd. Pan fydd y larfâu’n barod i heintio pobl, maen nhw'n cau eu hunain mewn codennau ym meinwe cyhyrau'r organeb letyol. Rheolir y gadwyn fwyd mewn nifer o ffyrdd i leihau'r posibilrwydd o gwblhau cylchred bywyd y llyngyren.
Mathau
[golygu | golygu cod]Mae grwpiau o lyngyr yn cynnwys:
- Acanthocephala
- Annelida: llyngyr anelid e.e. abwydyn, gele
- Chaetognatha: saethlyngyr
- Entoprocta
- Gnathostomulida
- Hemichordata: mes-lyngyr
- Nematoda: llyngyr crynion
- Nematomorpha
- Nemertea
- Phoronida
- Platyhelminthes: llyngyr lledog
- Priapulida
- Sipuncula
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)