Neidio i'r cynnwys

Baner Jibwti

Oddi ar Wicipedia
Baner Jibwti

Comisiynwyd baner Jibwti (Sillafiad Ffrangeg a Saesneg y wlad: baner Djibouti; Somalieg: Calanka Jabuuti; Arabeg: علم جيبوتي; Ffrangeg: Drapeau de Djibouti) yn swyddogol ar 27 Mehefin 1977.[1] Mae'r faner yn dangos triongl gwyn ar ochr y mast gyda seren bum pwynt coch ynddi; rhennir yr ymyl cyhwfan yn llorweddol yn ei hanner gyda hanner las las uwchben a hanner werdd isod.

Symbolaeth

[golygu | golygu cod]
Plant yn dal y faner genedlaethol

Ceir ystyron a symbolaeth arbennig i'r lliwiau:

Glas Golau - cynrychioli'r bobl Issa Somali (cymharer â lliw glas baner Somalia a hefyd y nôr glas
Gwyrdd - pobl yr Afar a'r ddaear gwyrdd
Gwyn - heddwch
Seren goch - undod y wladwriaeth amrywiol. Mae pum pwynt y seren yn cynrychioli'r ardaloedd lle mae Somalïaid yn byw: Somaliland Brydeinig (Somalia), Somalia Eidalaidd (Somalia), Somalia Ffrengig (Jibwti), Ogaden (Ethiopia) ac ardal Ffiniol y Gogledd (Northern Border District) (Cenia). Gwyn, gwyrdd a glas golau - lliwiau'r mudiad yr LPAI.

Dyluniad

[golygu | golygu cod]

Mae'r faner bresennol yn addasiad o faner y Ligue Populaire Africaine pour l'Independence (LPAI) a arweiniodd ymdrech annibyniaeth Jibwti a oedd yn drefedigaeth Ffrengig. Roedd gan y faner LPAI driongl coch gyda seren wen. Ar gyfer y faner genedlaethol, a dderbyniwyd gydag annibyniaeth, gosodwyd y seren mewn safle unionsyth yn hytrach na'i ddal mewn safle cam ac addaswyd cymhareb y faner hefyd.[1]

Baneri Hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Arddelwyd y baneri isod ar diriogaet bresennol Jibwti:

Dolenni

[golygu | golygu cod]
  • Jibwti gan Flags of the World.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Anjali Kamath. Flag Book. Popular Prakashan. t. 19. ISBN 978-81-7991-512-7.
Eginyn erthygl sydd uchod am Jibwti. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy