Content-Length: 61402 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_tymor_dwl

Y tymor dwl - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Y tymor dwl

Oddi ar Wicipedia

Cyfnod o ganol nes diwedd yr haf yw'r tymor dwl a nodweddir gan straeon newyddion chwerthinllyd yn y cyfryngau, yn enwedig y wasg. Dywed bod ail hanner yr haf yn araf yn nhermau newyddion gan fod gwleidyddion, barnwyr, ac eraill sy'n darparu newyddion o ddifrif ar eu gwyliau.[1] O ganlyniad mae newyddiadurwyr yn cyhoeddi mwy o straeon dibwys, ac o bosib amheus.

Mae papurau newydd (sy'n dibynnu ar hysbysebion fel prif ffynhonnell eu hincwm) fel arfer yn gweld gostyngiad mewn cylchrediad yn ystod adeg yma'r flwyddyn. Yn y Deyrnas Unedig, mae'r Senedd yn cymryd ei gwyliau blynyddol, ac felly ni cheir dadleuon seneddol a Chwestiynau'r Prif Weinidog, sy'n cynhyrchu llawer o newyddion yn ystod gweddill y flwyddyn. Er mwyn cadw ac atynnu tanysgrifwyr mae papurau newydd yn argraffu straeon sy'n tynnu sylw gan eu bod yn rhyfedd, yn amheus neu'n chwerthinllyd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tony Harcup. A Dictionary of Journalism (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t. 280.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_tymor_dwl

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy