Content-Length: 85505 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Stow_Hill

Stow Hill - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Stow Hill

Oddi ar Wicipedia
Stow Hill
Mathdosbarth, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,576 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5857°N 3.0016°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000833 Edit this on Wikidata
Cod OSST307879 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auJessica Morden (Llafur)
Map

Cymuned yn ninas Casnewydd yw Stow Hill. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,453.

Mae'r gymuned yn cynnwys y rhan fwyaf o ganol y ddinas. Yma mae Eglwys Gadeiriol Casnewydd, a gysegrwyd i sant Gwynllyw, ac roedd safle'r priordy canoloesoedd hefyd yn y gymuned yma. Yma hefyd mae Gwesty'r Westgate, lle daeth Gwrthryfel Casnewydd i ben yn 1839 pan saethwyd ar y gorymdeithwyr. Enwyd Sgwar John Frost ar ôl un o arweinwyr y gwrthryfel; yma y ceir llyfrgell ganolog Casnewydd a'r oriel gelf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jessica Morden (Llafur).[1][2]

Wrth gloddio sylfeini i'r ganolfan gelfyddydau, cafwyd hyd i weddillion Llong Casnewydd, llong sy'n dyddio o tua'r 15eg ganrif. Mae ar hyn o bryd yn cael ei hadfer.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Stow Hill (pob oed) (4,773)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Stow Hill) (380)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Stow Hill) (2845)
  
59.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Stow Hill) (769)
  
34.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Stow_Hill

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy